Ffacbys
Gwedd
| Cicer arietinum | |
|---|---|
| Dosbarthiad gwyddonol | |
| Teyrnas: | Plantae |
| Ddim wedi'i restru: | Angiosbermau |
| Ddim wedi'i restru: | Ewdicotau |
| Ddim wedi'i restru: | Rosidau |
| Urdd: | Fabales |
| Teulu: | Fabaceae |
| Genws: | Cicer |
| Rhywogaeth: | C. arietinum |
| Enw deuenwol | |
| Cicer arietinum Carl Linnaeus | |

Llysieuyn blodeuol (neu coden) yw ffacbys, sy'n enw benywaidd. Mae'n perthyn i'r teulu Fabaceae. Yr enw gwyddonol (Lladin) yw Cicer arietinum.[1] Yr enw Saesneg yw 'chickpea', er bod peth dryswch wrth i eraill alw lentils yn ffacbys[2]. Mae Llên Natur yn ei alw'n gwygbys.
Mae codau eraill yn cynnwys: ffa soia (Glycine max), y ffa cyffredin (Phaseolus), pys cyffredin (Pisum sativum), cnau mwnci (Arachis hypogaea), pys per (Lathyrus odoratus) a licrs (Glycyrrhiza glabra).
Coginio
[golygu | golygu cod]Mae'r ffacbys yn brif gynhwysyn i'r byrbryd traddodiadaol o'r Dwyrain Canol, ffelaffel. Caent eu cyfuno â dwr, perlysiau a dewis o gynhwysion eraill a'u gwneud yn beli cyn eu ffrio'n ddwfn.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Y Bywiadur Gwefan Llên Natur
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Gerddi Kew; adalwyd 21 Ionawr 2015
- ↑ http://geiriaduracademi.org/
