Basra
Gwedd
| Math | dinas â phorthladd, dinas fawr |
|---|---|
| Poblogaeth | 1,326,564 |
| Sefydlwyd | |
| Cylchfa amser | UTC+03:00 |
| Gefeilldref/i | |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Basra |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 181 km² |
| Uwch y môr | 5 ±1 metr |
| Cyfesurynnau | 30.515°N 47.81°E |
![]() | |
Basra (Arabeg: al-Basrah) yw ail ddinas Irac a phrifddinas talaith Basra. Saif tua 100 km o Gwlff Persia ar y Shatt al-Arab, a ffurfir gan aber afon Tigris ac afon Ewffrates. Roedd y boblogaeth yn 2008 tua 2.3 miliwn.
Sefydlwyd Basra yn 636 gan y califf Omar. Anrheithiwyd y ddinas gan y Mongoliaid yn y 13g, ei chipio gan y Twrciaid yn 1546, ei chipio oddi ar y Twrciaid gan y Prydeinwyr yn 1914, a'i chipio eto gan y Prydeinwyr yn 2003 yn ystod Rhyfel Irac.
Mae'r ardal o amgylch y ddinas yn bwysig am gynhyrchu olew,
