Virginia
| Arwyddair | Virginia is for lovers |
|---|---|
| Math | taleithiau'r Unol Daleithiau |
| Enwyd ar ôl | Colony of Virginia |
| Prifddinas | Richmond |
| Poblogaeth | 8,631,393 |
| Sefydlwyd | |
| Anthem | Our Great Virginia |
| Pennaeth llywodraeth | Abigail Spanberger |
| Cylchfa amser | America/Efrog Newydd |
| Iaith/Ieithoedd swyddogol | Saesneg |
| Daearyddiaeth | |
| Rhan o'r canlynol | taleithiau cyfagos UDA, South Atlantic states |
| Sir | Unol Daleithiau America |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 110,862 km² |
| Uwch y môr | 290 metr |
| Gerllaw | Cefnfor yr Iwerydd |
| Yn ffinio gyda | Gogledd Carolina, Gorllewin Virginia, Maryland, District of Columbia, Tennessee, Kentucky |
| Cyfesurynnau | 38°N 79°W |
| US-VA | |
| Gwleidyddiaeth | |
| Corff gweithredol | government of Virginia |
| Corff deddfwriaethol | Virginia General Assembly |
| Swydd pennaeth y Llywodraeth | Governor of Virginia |
| Pennaeth y Llywodraeth | Abigail Spanberger |
![]() | |
Talaith yng nghanolbarth arfordir dwyreiniol yr Unol Daleithiau, ar Gefnfor Iwerydd yw Virginia. Ceir gwastadir arfordirol isel yn y dwyrain sy'n codi i fryniau bychain sy'n arwain i'r Appalachians coediog yn y gorllewin. Ers canrifoedd mae'n enwog am ei thybaco.
Cafodd Virginia ei henwi ar ôl Elisabeth I, brenhines Lloegr, "y Frenhines Wyryfol". Sefydlwyd y wladfa Seisnig gyntaf yn y Byd Newydd yno gan Cwmni Virginia yn 1607. Tyfodd yn gyflym yn y ddwy ganrif nesaf. Un o'r rhai a denwyd yno oedd y bardd Goronwy Owen, a fu farw yno ar ei blanhigfa fach yn 1769. Roedd yn fagwrfa i sawl un o arweinwyr y Chwyldro Americanaidd, a daeth yn dalaith yn 1788. Roedd 4 allan o 5 arlywydd cyntaf yr Unol Daleithiau yn frodorion o Virginia, ond yn ystod Rhyfel Cartref America Richmond oedd prifddinas Cynghreiriad y De; erys yn brifddinas y dalaith heddiw.

Dinasoedd Virginia
[golygu | golygu cod]| 1 | Virginia Beach | 437,994 |
| 2 | Norfolk | 242,803 |
| 3 | Chesapeake | 222,209 |
| 4 | Richmond | 205,533 |
| 5 | Newport News | 180,719 |
| 6 | Alexandria | 84,913 |
| 7 | Hampton | 137,436 |
| 8 | Roanoke | 97,032 |
Dolen allanol
[golygu | golygu cod]- (Saesneg) www.virginia.gov
