Piraeus
Gwedd
| Math | dinas fawr |
|---|---|
| Poblogaeth | 168,151 |
| Pennaeth llywodraeth | Yannis Moralis |
| Gefeilldref/i | |
| Nawddsant | Saint Spyridon |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Bwrdeistref Piraeus |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 10.865 km² |
| Uwch y môr | 2 metr |
| Yn ffinio gyda | Nikaia |
| Cyfesurynnau | 37.943°N 23.64694°E |
| Cod post | 185 00–185 99 |
| Pennaeth y Llywodraeth | Yannis Moralis |
![]() | |

Piraeus (Groeg: Πειραιάς Pireás) yw porthladd Athen yng Ngwlad Groeg a'r porthladd pwysicaf yn y wlad honno. Mae'n gorwedd ar lan Gwlff Saronica i'r de-orllewin o ganol Athen.
Sefydlwyd Piraeus yn y bumfed ganrif CC fel porthladd i Athen. Chwareuodd ran bwysig yn y rhyfeloedd rhwng Athen a'r Ymerodraeth Bersiaidd (gweler Rhyfeloedd Athen a Phersia). Ar ôl y rhyfeloedd hynny codwyd Muriau Hir Athen i gysylltu'r ddinas a Piraeus ac amddiffyn y tir rhyngddyn nhw.
Dioddefodd Piraeus ddifrod sylweddol yn yr Ail Ryfel Byd mewn canlyniad i fomio o'r awyr. Ers hynny mae hi wedi ei adeiladu ar raddfa eang a thyfu'n ganolfan diwydiant pwysig gyda iardau adeiladu llongau, gweithfeydd puro olew a gweithfeydd cemegol.
